PET(4)-05-11 Papur 3a

P-03-317 Cyllid ar gyfer y celfyddydau Hijinx

Geiriad y ddeiseb

Yn dilyn y toriadau anghymesur yn arian refeniw Theatr Hijinx, rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i sicrhau bod digon o arian ar gael er mwyn gwneud yn siŵr nad yw gwaith arloesol a theilwng Theatr Hijinx mewn perygl. Mae’r cwmni unigryw hwn o Gymru wedi treulio 30 mlynedd yn datblygu cyfleoedd i bobl sydd ag anawsterau dysgu i gael eu cynnwys ar bob lefel a bydd y toriadau hyn yn golygu gostyngiad sylweddol yn y ddarpariaeth bresennol.

Linc i’r ddeiseb: http://www.cynulliadcymru.org/gethome/e-petitions-old/admissible-pet/p-03-317.htm

Cynigwyd gan: Mike Clark

Nifer y llofnodion: 1,893

 

Gwybodaeth ategol:

 

§  Cwmni theatr proffesiynol a sefydlwyd ym 1981 yw Cwmni Theatr Hijinx. Mae’r cwmni’n mynd â chynyrchiadau o safon uchel ar daith o amgylch lleoliadau bychain ledled Cymru a thu hwnt. Rhan fawr o gylch gwaith y cwmni yw gweithio gyda phobl sydd ag anableddau dysgu a grwpiau cymunedol cyffredinol.

 

§  Lle bynnag fo’n bosibl, mae cwmni Hijinx yn gwneud ymdrech i gastio actorion sydd ag anableddau dysgu ochr yn ochr ag actorion sydd wedi’u hyfforddi’n broffesiynol, gan greu cast cynhwysol. Nid oes unrhyw hyfforddiant drama proffesiynol ar gael ar hyn o bryd yng Nghymru i oedolion talentog sydd ag anableddau dysgu, a byddwn felly’n mynd i’r afael â’r mater hwn ar frys, gyda chynlluniau ar y gweill i ddarparu hyfforddiant o’r fath.

 

§  Sefydlwyd y prosiect Theatr Odyssey gan gwmni Hijinx ym 1999; ariannwyd y prosiect hyd at 31 Mawrth 2011 gan y Loteri Genedlaethol [nid yw’n rhan o’r grant refeniw]. Grŵp cyfranogi cymunedol yw Odyssey ar gyfer oedolion o bob gallu, sy’n cydweithio â sawl mudiad lleol,  Ysgol Arbennig Meadowbank (sef ysgol ar gyfer plant sydd â phroblemau cyfathrebu difrifol) a myfyrwyr sy’n astudio cerddoriaeth yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.

 

§  Yn 2009, enillodd Odyssey yr ail wobr yng nghategori gwobrwyo’r Loteri Genedlaethol ar gyfer y prosiectau gorau yn y maes celfyddydau.

 

§  Mae tîm allgymorth Hijinx, sef Hijinx Outreach, yn cynnig gweithdai a phrosiectau i bobl sydd ag anableddau dysgu.

 

§  MaeHijinx Outreach yn gyfrifol am gynnal yr Ŵyl Undod - gŵyl sydd ar gyfer pobl o bob gallu, syn para am wythnos ac syn cynnwys perfformiadau, gweithdai a gweithgareddau eraill a gaiff eu darparu gan gwmnïoedd o bob ban or byd, a hynny ar y cyd âChanolfan Mileniwm Cymru a Mencap Cymru. (Yn hanesyddol, mae’r ŵyl yn cael ei hariannu drwy ymdrechion ychwanegol i godi arian a thrwy grantiau ar gyfer cyflogau staff craidd a chostau swyddfa cyffredinol.)

 

§  Grant refeniw Hijinx ar gyfer 2010/11 yw £234,448, yn ogystal â £29,990 o arian loteri ar gyfer y prosiect Theatr Odyssey. Mae’r ffigur hwn yn golygu bod y lefelau ariannu wedi bod yn ddigyfnewid dros y pum mlynedd diwethaf.

 

§  O 1 Ebrill 2011, £160,000 yw cyfanswm y grant, a hynny gan gynnwys yr arian ar gyfer Odyssey. Mae hyn yn golygu toriad o £74,448 + £29,990, sef £104,438.

 

§  Mae pob ffurflen monitro ansawdd a gyhoeddwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru dros y tair blynedd diwethaf wedi nodi bod gwaith y cwmni’n “dda” neu’n “rhagorol”.

 

§  Mae penderfyniad y Cyngor yn gwbl groes i flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ac i ddyheadau ei hadolygiad buddsoddi.

 

§  O dan y grant newydd, ni fydd Hijinx yn gallu datblygu gwaith gyda phobl sydd ag anableddau dysgu, a bydd y sefyllfa hon yn arwain at gwtogiad sylweddol yn y gweithgareddau sydd ar gael ar hyn o bryd.

 

§  Bydd aelodau o staff yn colli eu swyddi a bydd y cwmni’n cael ei ailstrwythuro. Yn sgil hynny, bydd cymuned ymylol yn dioddef.

 

§  Mae Hijinx yn gwmni unigryw ac arloesol. Dyma’r unig gwmni yng Nghymru sy’n cynnig cyfleoedd proffesiynol i oedolion sydd ag anableddau dysgu i berfformio ac i fod yn gynorthwywyr gyda gweithdai. Mae Hijinx wedi ymrwymo i weithio mewn ffordd sy’n cynnwys pawb, a chred y cwmni fod gan bawb rhywbeth i’w gynnig, waeth beth yw lefel eu gallu.